Zoe Morgan a Lee Simmons
Roedd dyn wedi trywanu ei gyn-gariad a’i phartner newydd i farwolaeth tu allan i siop yng Nghaerdydd lle’r oeddan nhw’n gweithio, clywodd llys heddiw.

Mae Andrew Saunders, 21, eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33.

Cafwyd hyd i gyrff y ddau y tu allan i siop Matalan yn Stryd y Frenhines yng Nghaerdydd ar 28 Medi’r llynedd.

Roedd Zoe Morgan wedi bod mewn perthynas gydag Andrew Saunders o fis Mehefin 2014 hyd at Orffennaf 2016 pan ddaeth hi a’r berthynas i ben.

Fe ddechreuodd berthynas gyda Lee Simmons ym mis Gorffennaf 2016.

‘Rheolaeth’

Dywedodd yr erlynydd Philip Bennett QC wrth Lys y Goron Caerdydd bod Mark Morgan, tad Zoe, wedi dweud “ei bod yn amlwg o ddechrau’r berthynas bod Andy yn berson a oedd eisiau rheolaeth” dros ei gariad.

Roedd Andrew Saunders wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o ladd ar y we, ddyddiau cyn yr ymosodiad, clywodd y gwrandawiad dedfrydu.

Cafodd Andrew Saunders ei arestio yng nghartref ei rieni yn fuan ar ôl yr ymosodiad ar ôl i’w chwaer ffonio 999.

Dywedodd wrth yr heddlu bod yn flin ganddo “ond weithiau mae rhywun yn colli arno’i hun.”

Roedd archwiliad post mortem yn dangos bod Zoe Morgan a Lee Simmons wedi cael eu trywanu wyth gwaith.

Clywodd y llys bod Andrew Saunders wedi dweud wrth feddyg bod darganfod bod Zoe Morgan mewn perthynas â rhywun arall yn dorcalonnus.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth gan Mrs Ustus Nicola Davies.