(Llun: Gwasanaeth Ambiwlans)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y ffordd o asesu ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn parhau yn dilyn cyfnod treialu llwyddiannus.
Cafodd y model ei lansio yn 2015, ac mae’n gosod targed i ymateb i 65% o ‘alwadau coch’ [y galwadau mwyaf brys] o fewn 8 munud.
Ac mae gwerthusiad annibynnol gan y Cydbwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi dangos ymatebion cadarnhaol.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r perfformiad wedi gwella ac ym mhob un o’r 9 mis diwethaf mae dros 75% o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud.
‘Ennyn diddordeb ar draws y byd’
“Mae’r gwerthusiad annibynnol, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, yn cadarnhau ein penderfyniad i gymryd y cam eofn o roi’r model newydd ar waith yn sgil llwyddiant y peilot,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
“Mae’r ystadegau ambiwlans diweddaraf yn cadarnhau hynny, a llai na phum munud oedd yr amser ymateb arferol i alwadau lle mae bywyd yn y fantol ym mhob un o’r chwe mis diwethaf,” meddai.
Ychwanegodd fod y model wedi “ennyn diddordeb ar draws y byd” gyda gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban, Canada, Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau a Chile wedi dangos diddordeb ynddo.
“Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban yn cynnal peilot cenedlaethol i dreialu model sy’n debyg iawn i’n model ni,” meddai Vaughan Gething.
‘Ddim yn cymhwyso i’r categori brys’
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn feirniadol o’r cynllun gan ddweud fod y model yn caniatáu “i tua 96% o holl alwadau ambiwlans fynd heb eu mesur gan fradychu diffyg sylweddol o atebolrwydd.”
“Y nodwedd waethaf o bell ffordd yw bod y model hwn mewn sawl achos, gan gynnwys trawiad ar y galon a strôc, ddim yn cymhwyso ar hyn o bryd i’r categori ymateb mwyaf brys oni bai bod cleifion wedi stopio anadlu neu fod eu calonnau wedi stopio curo,” meddai Angela Burns AC.