Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Mae wythnos o hybu Cymru i’r byd fel rhan o ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, wedi dechrau.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn traddodi araith ym mhencadlys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig heddiw er mwyn lansio ‘Wythnos Cymru yn Llundain’, ac yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Lancaster.

Ddydd Mawrth bydd Carwyn Jones yn teithio i’r Unol Daleithiau ac yn trafod buddsoddi yng Nghymru â chwmnïau yn Washington ac Efrog Newydd, ac yn lansio ymgyrch dwristiaid rhyngwladol Blwyddyn Chwedlau 2017.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Mark Drakeford, yn teithio i Frwsel er mwyn trafod dyfodol Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd â Chynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig, Syr Tim Barrow .

Hefyd bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn teithio i’r Emiraethau Arabaidd Unedig yr wythnos yma i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru.

Hyrwyddo Cymru

“Yr wythnos hon bydd y Cabinet a minnau’n dathlu diwrnod ein nawddsant drwy hyrwyddo Cymru o gwmpas y byd a dathlu popeth sydd gennym i’w gynnig,” meddai Carwyn Jones.

“Byddwn yn defnyddio pob cyfle i arddangos ein diwylliant, ein hanes a’n hiaith unigryw, a dangos bod Cymru yn wlad wych i ymweld â hi ac i wneud busnes ynddi hi.”