Mae Heddlu’r De yn trin marwolaeth dyn o ardal Port Talbot fel achos o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân fore dydd Llun (Chwefror 27).

Daeth Heddlu’r De o hyd i ddyn 37 oed ag anafiadau difrifol ar Heol Dalton yn ardal Traethmelyn, Port Talbot.

Mae dyn arall, 33 oed, wedi cael ei arestio ac wedi’i gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, ac mae ardal o Heol Dalton wedi’i chau wrth i’r ymchwiliadau barhau.

“Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel llofruddiaeth ac mae ymchwiliad llawn yn cael ei chynnal,” meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Jones o Heddlu De Cymru.

Mae’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad rhwng 1 a 2.30 y bore i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar  0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1700074934.