Mae Heddlu Gwent yn awyddus i holi tri dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ar ddyn yng Nghasnewydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Stryd Commercial, Casnewydd rhywbryd rhwng 7.40yh a 8.10yh ar ddydd Iau, 16 Chwefror.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent am driniaeth ar gyfer anafiadau sydd ddim yn bygwth ei fywyd, yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac maen nhw bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Ond mae’r heddlu’n awyddus i holi tri dyn arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.