Elli Norkett (Llun: Heddlu'r De)
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ddynes 20 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Glyn-nedd neithiwr.

Bu farw Elli Norkett o Landarcy ger Castell-nedd yn y gwrthdrawiad rhwng Toyota Yaris a Vauxhall Insignia ar ffordd A4109 rhwng Banwen a Glyn-nedd.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth.

Teyrnged

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Elli Norkett ei bod hi’n “garedig”.

Roedd hi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn astudio datblygiad chwaraeon.

Roedd hi’n chwarae rygbi i dîm merched Cymru, a hi oedd y chwaraewr ieuengaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2013.

Roedd hi hefyd yn aelod o garfan saith bob ochr Cymru a Phrydain, ac yn chwarae i Abertawe a’r Gweilch.

Dywedodd ei theulu: “Roedd hi wedi’i charu a’i gwerthfawrogi gan gynifer o bobol ac mae hi wedi cyffwrdd â chalonnau ei theulu a’i ffrindiau oherwydd ei natur garedig a’i phersonoliaeth annwyl.”

‘Talentog’

Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru: “Rydym wedi tristau’n ddwys o glywed y newyddion trasig am Elli Norkett. Roedd hi’n chwaraewraig dalentog ac ymroddgar ac yn aelod poblogaidd o’r tîm.

“Roedd hi’n cael ei thrysori fel aelod o’r teulu rygbi yng Nghymru. Mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”