Taimour Truman (Llun: Heddlu'r De)
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth am ddyn 32 oed sydd heb gael ei weld ers bore Iau.

Cafodd Taimour Truman ei weld ddiwethaf yn ei gartref yn yr Eglwys Newydd am oddeutu 7.30 fore Iau.

Mae’r heddlu’n gofidio am ei ddiogelwch, ac mae lle i gredu ei fod e wedi teithio ar y trên i orsaf Paddington i Lundain.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.