Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd A4109 rhwng Banwen a Glyn-nedd.

Roedd Toyota Yaris a Vauxhall Insignia mewn gwrthdrawiad am oddeutu 7.40pm neithiwr.

Cafodd dynes 20 oed, oedd yn gyrru’r Toyota Yaris, anafiadau angheuol, tra bod dynes 42 oed oedd yn gyrru’r Vauxhall Insignia a merch 12 oed oedd yn teithio yn y car anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu eu bywydau.

Cafodd y ffordd ei chau am hyd at chwech awr wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu’r De ar 101.