Alisha Pearce (llun gan yr heddlu)
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am help i gael hyd i ferch 13 oed  o ardal Hengoed yng nghwm Rhymni.

Cafodd Alisha Pearce ei gweld ddiwethaf fore ddoe am 11.00 yng ngorsaf reilffordd Abercynon, ac mae’r heddlu’n bryderus am ei diogelwch.

Caiff ei disgrifio fel merch denau 5 troedfedd o daldra gyda gwallt tywyll. Cafodd ei gweld ddiwethaf yn gwisgo siaced ddu, jîns llwyd a trainers Adidas du.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 551 24/02/17.