Kim Howells, cyn-swyddog NUM
Roedd rhai o gefnogwyr y glöwyr yn ystod streiciau’r 1980au, yn mwynhau gormod ar y bywyd o brotestio, meddai gwleidydd a oedd yn ei chanol hi fel swyddog undeb yr NUM yn yr 1980au.

Yn ôl Kim Howells, cyn-Aelod Seneddol Pontypridd, roedd yn gyfnod “lloerig” yn ei fywyd yntau, ac i nifer o bobol oedd yn teithio ledled gwledydd Prydain yn dangos eu cefnogaeth i weithwyr glo caled, o dde Cymru i ogledd Lloegr.

Yr hyn gafodd ei golli, efallai, yn y cyfnod, meddai, oedd gallu’r swyddogion undeb a’r rheiny oedd yn gorfod eistedd i lawr o gwmpas y bwrdd gyda llywodraeth Margaret Thatcher, i ddadlau tros egwyddorion.

“Os y byddech chi wedi clywed cyn-swyddogion yr NUM yn dadlau yn y degawdau cynt, fe fyddech chi’n meddwl eich bod yn gwrando ar fargyfreithwyr yn mynd trwy’u pethau, oherwydd roedd ganddyn nhw ddawn fawr i gael eu pwyntiau drosodd,” meddai Kim Howells.

“Wedyn, pan ddaeth streic 1984-85, fi oedd yn gyfrifol am y picedu ac anfon cynrychiolwyr y glöwyr (sa’ i’n eu galw nhw’n bicedwyr) i bob cwr. Ac roedd e’n gyfnod grêt… ond yn gyfnod lloerig hefyd.”

Anfon criw i orsaf niwcliar

Er mwyn tymheru rhywfaint ar y brwdfrydedd, fe fu’n rhaid i Kim Howells feddwl am gynllun i gadw un criw draw o byllau glo gwledydd Prydain… ac fe’u hanfonodd at gatiau gorsaf bwer Heysham yn Sir Gaerhirfryn.

“Roedden nhw wedi addasu hen fan delifro ffrwythau, wedi tynnu’r silffoedd ma’s ac wedi rhoi gwelyau i mewn, fel bod nhw’n gallu teithio i bobman – a chael sbort fawr – yn cefnogi’r streic,” meddai.

“Fe ges i’r syniad o ddweud wrthyn nhw fod rhywbeth ar droed yng ngorsaf bwer Heysham, a bod angen rhwystro lorïau oedd yn cario stwff i mewn. Fe aethon nhw lan, ac ar ôl dyddiau, fe ges i alwad ffôn yn dweud nad oedden nhw wedi gweld un lori lo yn cario tanwydd i Heysham tra’r oedden nhw yno.

“Atomfa niwcliar yw hi, medde fi,” meddai Kim Howells eto, “a’u perswadio i aros yno i rwystro unrhyw dryciau oedd yn cario carbon deuocsid.”

Cyfnod “lloerig”

Roedd y 1960au, y 1970au a’r 1980au yn gyfnodau “lloerig”, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun – o’i ddyddiau yn astudio celf yn Llundain a gorfod gadael oherwydd fod protestio yn bwysicach iddo na gweithio; i’w gyfnod yn fflyrtio gyda Chomiwnyddiaeth ac yn credu mai “dim ond defaid” oedd yna i’r gogledd o Hirwaun.

“Ro’n i’n lloerig yn y cyfnod yna,” meddai Kim Howells, a gafodd gyfnodau hefyd yn gweithio mewn pyllau glo cyn i’r Streic dorri yn 1984.

“Ond roedd popeth yn paratoi rhywun ar gyfer y cyfnod hwnnw. Wedi dweud hynny, fe fues i’n ddi-gyflog am flwyddyn, newydd briodi a gyda babi bach, a doedd pethau ddim yn rhwydd.

“Fe aeth rhai pobol trwy’r cyfnod yn cael hwyl fawr yn protestio, yn byw bywyd ar y chwith. Roedd rhai ohonyn nhw’n mwynhau gormod, does dim dwywaith.”