Mae tua 1,500 o dai yng ngogledd a chanolbarth Cymru dal heb drydan yn dilyn Storm Doris ddoe.

Yn ôl cwmni Scottish Power  mae eu gweithwyr yn parhau i geisio dychwelyd cyflenwad pŵer Maentwrog, Ederyn ac Amlwch.

Roedd tua 40,000 o dai wedi eu heffeithio ar un adeg ond bellach mae’r cwmni wedi medru adfer cyflenwad y rhan fwyaf o’u cwsmeriaid.

Hefyd mae cyflenwad pŵer cwsmeriaid Western Power wedi’i ailgysylltu yn dilyn cyfnod pan oedd miloedd yn ne Cymru heb gyflenwad pŵer.

Problemau trafnidiaeth

Mae disgwyl bydd rhai teithwyr yn parhau i wynebu problemau trafnidiaeth gydag Arriva Cymru yn dweud bod difrod Storm Doris o hyd yn broblem.

Bydd cledrau trên rhwng Wrecsam a Bidston, Blaenau Ffestiniog a Llandudno, a Chalon Cymru rhwng Abertawe a’r Amwythig ar gau heddiw.