Paul Flynn (o'i wefan)
Does dim arwyddocâd i ganlyniad isetholiad Copeland, meddai Llafurwr amlwg.

Er fod Llafur wedi colli’r sedd ‘saff’ yn Cumbria i’r Ceidwadwyr, mae AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, mai “nonsens llwyr” yw awgrymu y bydd hynny’n niweidio’r arweinydd, Jeremy Corbyn.

“Mae Copeland yn unigryw, does dim un etholaeth arall fel Copeland yn y wlad o gwbl oblegid y bobol sydd yn gweithio yn y diwydiant niwclear. Dydy’r canlyniad ddim yn arwyddocaol o gwbl,” meddai.

Cosbi

Yn ôl Paul Flynn, roedd Llafur yn cael eu cosbi am fod yr AS blaenorol wedi ymddiswyddo ynghanol ei dymor – er fod Llafur wedi dal gafael ar Ganol Stoke on Trent neithiwr, lle’r oedd yr un peth wedi digwydd.

“Mae dau berson wedi ymddiswyddo heb gwblhau eu pum mlynedd o wasanaeth ac fel arfer mae pleidleiswyr yn cosbi’r pleidiau,” meddai Paul Flynn.

“Dydy hi ddim yn syniad da i Aelodau Seneddol adael am swyddi eraill sy’n rhoi mwy o arian iddyn nhw. Wrth gwrs dydy pobol ddim yn hapus i weld eu haelod seneddol yn rhedeg i ffwrdd.”

Rhybudd i Corbyn

Er ei fod yn gwadu pwysigrwydd canlyniad Copeland, mae Paul Flynn – a fu’n rhan o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn – yn rhybuddio y gallai pwysau ddod.

“Dw i’n credu bod yn rhaid i ni edrych ar y sefyllfa ac os byddai pethau’n gwella heb Corbyn wrth gwrs byddai’n rhaid i ni newid.

“Mae gyda ni broblemau, dw i’n cydnabod y gwendidau yn y blaid a bydd yn rhaid i ni eu hwynebu nhw ond dydy canlyniad Copeland ddim yn arwyddocaol fel y mae pobol yn credu.”

Gwers arall o ganlyniadau neithiwr, meddai, oedd fod UKIP yn beryg i’r pleidiau eraill mewn etholiadau cyfrannol – fel y rhestrau yng Nghymru – ond nid mewn etholiadau dim-ond-y-cyntaf-sy’n-ennill.