Cerdyn Post o'r pier yn ei ogoniant (llun parth cyhoeddus)
Mae Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd wedi galw ar Gyngor Conwy  i “frysio” i ddatgymalu Pier Bae Colwyn.

Dywedodd Darren Millar bod yn rhaid gweithio’n gyflym i dynnu gweddill y Pier i lawr er mwyn atal difrod pellach.

“Storm Doris yw un o’r gwaethaf i daro Gogledd Cymru erstalwm, ac felly dyw hi ddim yn syndod bod rhan arall o’r pier wedi cwympo,” meddai Darren Millar.

“Pan fydd y tywydd yn gwella bydd yn rhaid i’r Cyngor frysio i sicrhau bod gweddill y pier yn cael ei ddatgymalu. Allwn ni ddim gadael y pier yn y cyflwr yma.”

Cwympodd rhan arall o’r pier i’r môr y ddoe, wythnos wedi i’r Cyngor gynnal trafodaethau brys am ddyfodol yr adeilad Gradd II.