Cael yr hawl i bobol anabl fyw'n annibynnol yw un o amcanion Anabledd Cymriu (Llun o wefan yr elusen)
Mae mudiad sy’n cynrychioli pobol anabl yng Nghymru wedi condemnio Llywodraeth Prydain am fethu â mynd i’r afael â’r problemau dwfn sy’n atal pobol ag anableddau rhag cael gwaith.

Dyw papur gwyrdd newydd gan yr Adran Waith a Phensiynau ddim yn cydnabod eu bod yn trafod “pobol a bywydau go iawn”, meddai Anabledd Cymru.

A’r cam cynta’, medden nhw, yw dadwneud y toriadau mewn budd-daliadau – heb hynny a thaclo’r annhegwch sy’n wynebu pobol anabl, fydd hi ddim yn bosib torri’r bwlch diweithdra.

“Rydyn ni wedi darllen storiâu erchyll gan bobol anabl sydd wedi’u gadael heb incwm ar ôl debryn asesiad eu bod yn ddigon iach i weithio, a nhwthau’n dal i deimlo’n sâl ac am gelwyddau mewn adroddiadau asesu,” meddai Rhian Davies, Prif Weithredwraig Anabledd Cymru.

‘Dim croeso’ gan bobol anabl

Doedd y Papur Gwyrdd, meddai, ddim yn taclo tair elfen allweddol – gwella hawliau anabledd, ei gwneud hi’n haws i bobol anabl fyw’n annibynnol a chydnabod yr “anfanteision ac anffafriaeth y mae pobol anabl yn eu hwynebu ym mhob rhan o’u bywydau.”

Mae’r Papur Gwyrdd a gafodd ei gyhoeddi ddiwedd y llynedd yn dweud ei fod eisiau haneru’r “bwlch cyflogaeth” – fod lefel diweithdra ymhlith pobol anabl 32% yn uwch nag ymhlith gweddill y boblogaeth.

Mae’n canolbwyntio ar wella sgiliau pobol anabl, gwella arferion cyflogwyr a newid y drefn daliadau rhag fod hynny’n rhwystro pobol anabl rhag cael cymorth i chwilio am waith.

Ond, yn ôl Anabledd Cymru, am fethu â mynd ar ôl materion mwy sylfaenol, fydd pobol anabl yng Nghymru ddim yn ei groesawu.

Galw am newid

Mae’r elusen wedi galw am gyfres o newidiadau. Maen nhw’n dweud bod angen:

  • Ystyried materion cymdeithasol eraill.
  • Gwell gwybodaeth i bobol anabl a mwy o amser wrth ystyried cyeisiadau.
  • Arferion a phatrymau gwaith mwy hyblyg.
  • Mwy o gymorth a chyngor i gyflogwyr.
  • Llwybr cyflym at wasanaethau iechyd, fel rhai iechyd meddwl.
  • Newid agwedd – pwysleisio gallu nid anallu.