Neil Hamilton (Teledu'r Cynulliad)
Fe ddylai UKIP trwy wledydd Prydain ddilyn esiampl y blaid yng Nghymru, yn ôl ei harweinydd yn y Cynulliad.

Ar ôl methu â chipio sedd obeithiol yng nghanol Stoke on Trent, fe ddywedodd Neil Hamilton fod angen i’r blaid wrth-Ewrop ddangos beth oedd ei phwrpas bellach.

Roedd yn honni bod hynny’n digwydd yng Nghymru lle mae gan UKIP saith sedd, ond nad oedden nhw’n llwyddo i drosglwyddo eu neges yn y gwledydd eraill.

Egluro yng Nghymru

“R’yn ni’n dal yn fyw,” meddai Neil Hamilton ar Radio Wales. “Nid mater yw e a oes gan UKIP bwrpas ond egluro hynny yn San Steffan, fel yr yden ni wedi bod yn gwneud yng Nghymru.”

Er fod yr etholaeth yn Stoke wedi pleidleisio’n gry’ iawn o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, doedd hynny ddim yn ffactor yn yr isetholiad, meddai.

Ac fe wadodd fod arweinydd UKIP, Paul Nuttall, wedi cael ei ddifrodi wrth fethu ag ennill y sedd ac ar ôl cael cyhoeddusrwydd mawr am gelwydd ar ei wefan.

Doedd arweinwyr gwleidyddol ddim yn tjecio pob manylyn ar eu gwefannau, meddai – er fod y cofnod wedi ei gyhoeddi ymhell cyn i Paul Nuttall ddod yn wleidydd amlwg.