Y cyn-Esgob Barry Morgan, a ymddeolodd yn Ionawr
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi methu â phenodi olynydd i Barry Morgan yn Esgob Llandaf.

Wedi tridiau o drafod, dan drefn Coleg Etholiadol yr Eglwys, ni lwyddodd yr un o’r rheiny oedd yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd y nifer digonol o bleidleisiau, sef dwy ran o dair o fwyafrif.

Dan gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, felly, fe fydd y cyfrifoldeb o lenwi’r swydd wag yn syrthio ar Fainc yr Esgobion – sef yr esgobion sy’n arwain yr esgobaethau eraill yng Nghymru – Bangor; Llanelwy; Abertawe ac Aberhonddu; Ty Ddewi; Mynwy.

Llywydd Mainc yr Esgobion ydi John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu.