Dyddiau da - Pier Bae Colwyn ar gerdyn post (Llun: Wikipedia)
Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau fod rhan arall o Bier Bae Colwyn wedi disgyn i’r môr.

Mae’n debyg bod pen pellaf y pier Fictorianaidd wedi cwympo i’r môr ac ar hyn o bryd, mae swyddogion iechyd a diogelwch ynghyd â pheirianwyr yn monitro’r sefyllfa.

Ni fydd modd asesu’r difrod i’r adeilad rhestredig  Gradd II tan fydd y llanw allan ond mae’r sefyllfa wedi ei nodi i wylwyr y glannau, meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Bu cynghorwyr yn trafod dyfodol y Pier wythnos ddiweddaf wedi i ran o ben pellaf yr adeiledd gwympo i’r môr. Yn dilyn cyflwyniad adroddiad brys daeth Cyngor Conwy i’r casgliad bod yn rhaid datgymalu rhan o’r pier.