Robert Peston (Llun: ITV)
Mae un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlyca’ gwledydd Prydain wedi amddiffyn y Cymry, drwy lambastio’r sawl sy’n gwneud “sylwadau gwrth-Gymreig”.

Fe aeth Robert Petson ar wefan gymdeithadol Twitter i ddweud ei fod wedi cael digon ar bobol “a fyddai’n casáu cael eu galw’n hiliol”, sy’n “meddwl  ei fod yn iawn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig didaro.”

Roedd Robert Peston, a ddaw o Lundain ond a aeth i Brifysgol Aberystwyth, yn ohebydd busnes y BBC, cyn gadael yn 2016 am ITV.

Huw Edwards yn diolch

Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards o Lanelli, un o wynebau amlycaf y BBC sy’n cyflwyno BBC News at Ten, wedi trydar ato yn dweud diolch.

Hyd yn hyn, mae neges Robert Peston ar Twitter wedi ennyn 368 o ail-drydariadau ac mae 841 o bobol wedi hoffi’r sylw a 145 wedi ymateb.

“Pam bod cymaint o bobol a fyddai fel arfer yn casáu cael eu galw’n hiliol yn meddwl ei fod yn iawn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig didaro? Mae’n digwydd o hyd. Dw i’n ei gasáu,” meddai ei neges.

Wrth ateb iddo, dywedodd Huw Edwards, “Diolch Robert. Mae rhai o’r gwaethaf yn bobol sy’n ymfalchïo yn eu hunain ar agwedd ‘ryddfrydig’. Rhyfeddol”

Dyma neges Robert Peston