Fe fydd y Cymro sydd wedi’i gyhuddo o lawrlwytho llawlyfrau’r Wladwriaeth Islamaidd oddi ar y we, yn sefyll ei brawf yr ha’ hwn.

Mae Nathan Saunders, 23, yn wynebu pump cyhuddiad o fod â chofnodion yn ei feddiant a allai fod o ddefnydd i rywun oedd yn cynllunio gweithred frawychol. Mae wedi arestio a’i gyhuddo dan Adran 58 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Fe fydd yr achos yn cael ei gynnal yn yr Old Bailey yn Llundain, ac yn dechrau ar Awst 7.

Pan gafodd y gweithiwr mewn canolfan alwau ei arestio ar Chwefror 8, fe ddaeth yr heddlu o hyd i bedwar rhifyn o gyhoeddiad y Wladwriaeth Islamaidd, Rumiyah, ar ei iPhone. Roedd ganddo hefyd gopi o Anarchist Cookbook.