Bu cynnydd o  10% yn nifer yr achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2015 o gymharu â degawd ynghynt,  yn ôl ffigurau newydd.

Mae data Uned Ddeallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn dangos bod 19,088 achos newydd wedi’i ddiagnosio yn 2015, cynnydd o 1,699 o achosion.

Yr adroddiad 

Mae’r adroddiad yn datgan fod yna “duedd hirdymor o gynnydd yn y nifer o achosion newydd o ganser ym mhoblogaeth Cymru” er bod gostyngiad yn y nifer rhwng 2015 a 2014.

Yn 2015, roedd mwy o achosion o ganser wedi’u cofnodi mewn dynion (9,837) nag mewn menywod (9,251).

Ond mae’r rheiny sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r adroddiad wedi awgrymu y gallai’r ystadegau fod yn rhoi camargraff, gan fod system gyfrifiadurol newydd wedi’i chyflwyno yn ystod y degawd diwetha’, yn ogystal ag ambell i newid “cysylltiedig â ffynonellau data”.

Sefyllfa annerbyniol

“Er bod nifer yr achosion newydd o ganser yn lleihau ymysg dynion, y cyfraddau yng Nghymru  yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, ac mae’r gwahaniaethau rhwng cymunedau cyfoethocaf a chymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn parhau i dyfu,” meddai Claudia McVie, Prif Weithredwr elusen ganser Tenovus.

“Mae’r sefyllfa yma yn annerbyniol, ac mae’n rhaid i ni fabwysiadu ffyrdd newydd o atal canser gan nad yw’r camau presennol yn gweithio.

“Mae’n hanfodol ein bod yn delio â’r problemau yma yng Nghymru os ydym am fyw mewn gwlad hapus a iachus.”

Lloegr a Chymru

Mae cyhoeddiad yr ystadegau yn cyd-daro â chyhoeddiad adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) sy’n dangos y bu 299,923 o achosion newydd o ganser yn Lloegr yn 2015, y ffigwr uchaf erioed i gael ei gofnodi.

“Mae mwy o bobol yn cael diagnosis o ganser nag erioed o’r blaen, a thu ôl yr ystadegau yma mae tua 320,000 o unigolion yn Lloegr a Chymru wedi bod yn cael amser caled dros ben,” meddai Prif Weithredwr Macmillan Cancer Support, Lynda Thomas.

“Mae’r gweithwyr y GIG yn dweud wrthym fod eu llwythi gwaith erioed wedi bod mor sylweddol. Credwn yn gryf bod yn rhaid rhoi i’r gwasanaeth iechyd yr hyn sydd ei angen arno er mwyn gallu delio â’r galw cynyddol arno.”