Mae dyn wedi cael ei garcharu am ddarlledu achos llys yn fyw ar wefan gymdeithasol Facebook.
Roedd David Davies o Lanilltud Faerdref yn ffilmio yn yr oriel gyhoeddus yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun (Chwefror 20) pan oedd tyst yn rhoi tystiolaeth.
Tynnodd aelod o’r cyhoedd sylw’r heddlu at y digwyddiad, ac fe gafodd ei arestio’r diwrnod canlynol wrth iddo ddychwelyd i’r llys.
Cafodd ei ddedfrydu i fis o garchar am ddirmyg llys.