Plas Glynllifon
Mae cwmni sy’n berchen gwestai ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, wedi cyhoeddi cynllun gwerth tua £6m i adnewyddu Plas Glynllifon ger Caernarfon.
Mae Rural Retreats & Leisure Ltd yn gobeithio agor y plas fel gwesty pum seren erbyn 2020 ac mae sôn y bydd sba ac amgueddfa yn rhan o’r cynllun. Bydd gwaith ar y prosiect fydd yn costio rhwng £5.5 miliwn a £6.5 miliwn yn debygol o ddechrau mis Hydref, ac yn dod i fwcwl yn 2020.
Yn ddiweddar fe wnaeth cwmni Rural Retreats & Leisure brynu Seiont Manor ger Llanrug hefyd, ac maen nhw eisoes yn berchen ar westai yn Llanandras, Trefyclo a Henffordd.
Roedd yr adeilad Gradd I yn hen gartref i’r Arglwydd Niwbwrch ac mae tua chant o ystafelloedd yn y plas 200 oed.
Ffraeo am yr enw
Mae’r adeilad wedi denu cryn dipyn o sylw yn y gorffennol o ganlyniad i ymgeision i’w ail henwi.
Yn 2015, fe ddechreuodd y cwmni datblygu MBI ddefnyddio’r enw Wynnborn ar y plas, fel rhan o ymgyrch farchnata i ddenu buddsoddwyr.
Bu ymateb chwyrn i sefyllfa debyg yn Chwefror 2016, pan wnaeth y cwmni David Currie & Co fabwysiadu Newborough Hall fel enw ar y plas.