Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, wedi i ddyn gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar briffordd yr A4119 yn Groes-faen ger Llantrisant toc wedi 7.30yh neithiwr, pan oedd y dyn yn teithio mewn cerbyd Citroen Xsara piws.

Yn ol yr heddlu, maen nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw sydd â gwybodaeth am y car a’r modd y cafodd ei ddefnyddio cyn y ddamwain, neu unrhyw un a welodd be’ ddigwyddodd.