Y ddau adeilad yn Harlech Llun: Deiseb 'Demolish and Redevelop Harlech Eyesores'
Mae deiseb wedi ei lansio sydd yn galw am ddymchwel ac adnewyddu dau adeilad yn Harlech.

Mae’r ddeiseb, sydd hyd yma a 200 o enwau arni, yn galw ar Gyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i fynd i’r afael â hen adeilad Gwesty Dewi Sant a neuadd breswyl Coleg Harlech.

Mae’r ddeiseb yn galw hefyd am “ddefnydd priodol o adeiladau’r coleg”, gyda’r nod o ddarparu fflatiau gwyliau, gwesty, bwyty a chyfleusterau hamdden.

Mae’r ddau adeilad bellach yn adfeilion ac mae nifer o bobol leol yn dadlau eu bod yn anharddu’r dirwedd.

‘Dirywiad mawr’

Wrth siarad â Golwg360, dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Caerwyn Roberts, sy’n cynrychioli Harlech ac sy’n gadeirydd y grŵp cymunedol, Harlech in Action, bod angen gweithredu.

“Dw i’n meddwl ei fod yn agosáu yn awr i fod yn adeilad peryg. Mae yna ddirywiad mawr ac mae rhai yn dweud bod yr adeilad yn agored o’r top i’r gwaelod. Mae’n adeilad pedwar i bum llawr.”

Er ei fod yn cefnogi’r syniad o adnewyddu’r adeilad mae’r cynghorydd yn bryderus am y rhwystrau sydd yn wynebu newid o’r fath.

“Rydyn ni wedi rhoi rhybudd adran 215 ar y gwesty ac felly fedrwn ni wneud dim byd nes daw’r gorchymyn i ben ar Ebrill 18 y flwyddyn yma. Neith hi gostio degau o filoedd i dynnu’r adeilad i lawr.

“Does dim byd i weld yn digwydd, mae 10 mlynedd wedi mynd heibio. Fydd yn rhaid i ni weld faint o bwysau mae’r ddeiseb yn rhoi.”

Dywed hefyd byddai’n rhaid “troedio’n ofalus” wrth gynnal arolwg ym mis Mai i weld a oes ystlumod – creaduriaid sydd wedi eu diogelu gan ddeddf Ewrop – yn yr adeilad.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd am sylw.