Cadeirlan Llandaf
Mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yn cwrdd heddiw i ddechrau ar y broses o ethol Esgob newydd  i Landaf.

Bydd drysau Cadeirlan Llandaf yn cau am dridiau heddiw er mwyn i’r Coleg Etholiadol, sy’n cynnwys 47 o bobol ynghyd ag holl esgobion Cymru, drafod a phleidleisio.

Bydd yr esgob newydd yn olynu Dr Barry Morgan wnaeth ymddeol ddiwedd mis Ionawr o’i rôl fel Esgob Llandaf, ynghyd â’i swydd fel Archesgob Cymru ar ôl 14 o flynyddoedd.

Bydd gan Esgob newydd Llandaf hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd ar ôl yr enwebiad, a bydd cadarnhad ffurfiol ym mis Ebrill.

Mae esgobaeth Llandaf yn cynnwys rhannau o Gaerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.