Llun: Bws Caerdydd
Mae angen i fwy o bobol ifanc ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Maen nhw’n gobeithio annog hynny drwy gynnig prisiau rhatach drwy’r cynllun ‘Pas Teithio Pobol Ifanc’ fydd yn weithredol o 2018 ymlaen.

Mae’r cynllun yn dilyn cynllun arall, ‘Fy Ngherdyn Teithio’, lle bydd pobol ifanc 16, 17 ac 18 oed yn parhau i gael teithio’n rhatach.

‘Tro pedol’

Daw cyhoeddiad Ysgrifennydd Economi a Seilwaith i gynnig cynllun newydd i bobol ifanc yn dilyn Uwchgynhadledd Fysiau Cymru yn Wrecsam ar ddiwedd mis Ionawr.

Mae Ken Skates hefyd yn amlygu fod galw am drafnidiaeth gyhoeddus ratach i’r ifanc wedi i 91% ymateb i arolwg yn dweud eu bod yn defnyddio bysiau o leiaf unwaith yr wythnos i siopa, weithio neu fynd i’r ysgol neu’r coleg.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi’u cyhuddo o wneud tro pedol wrth beidio â diddymu’r cynllun sy’n cynnig prisiau rhatach i bobol ifanc.

“Roedd y tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru yn ddisgwyliedig ond unwaith eto mae’n pwysleisio materion hanesyddol o fewn yr adran economi ynglŷn â’i reolaeth a’i weithrediadau o fuddsoddiadau a phrosiectau,” meddai’r AC Mohammad Asghar.

Ychwanegodd fod angen sicrhau “cefnogaeth tymor hir” i’r cynllun newydd fel bod pobol ifanc “yn gallu chwilio addysg, hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith y maen nhw’n eu haeddu.”


Ffion Parrington
‘Aberth mawr’

Ond, mae un ferch yn ei hugeiniau sy’n byw ac yn gweithio yn y cymoedd ddim yn gweld trafnidiaeth gyhoeddus ei hardal yn “realistig” ar hyn o bryd.

Mae Ffion Parrington yn gyfieithydd yn Abercynon ac yn byw yn Abertyleri, ac fel arfer mae’n gyrru i’w gwaith.

Ond heddiw, mae wedi gorfod cymryd diwrnod o wyliau am fod ei char yn y garej, ac am y byddai defnyddio’r drafnidiaeth gyhoeddus wedi cymryd gormod o amser.

“Yn y car, mae’r daith yn cymryd rhyw hanner awr, ond byddai wedi cymryd dwy awr imi gyrraedd y gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai wrth Golwg360.

“I fod yno erbyn naw, byddwn i wedi gorfod dal bws am tua 6.10 y bore o Abertyleri i Frynmawr, bws arall o Frynmawr i Ferthyr, ac yna trên o Ferthyr i Abercynon.”

Dywedodd y byddai’n well ganddi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ei fod yn rhatach ac yn well i’r amgylchedd – “ond ar hyn o bryd, mae’n golygu aberth mawr a dydy o ddim yn realistig o gwbl.

“Fel rhywun sydd wedi symud i’r cymoedd o Gaerdydd, dw i wedi sylwi ei bod hi’n anodd iawn i fynd o un cwm i’r llall.”