Jordan Matthews Llun: Heddlu De Cymru/PA
Mae dyn wnaeth guro ei gariad i farwolaeth yn eu fflat yng Nghaerdydd wedi cael ei garcharu am oes.

Fe fydd yn rhaid i Jordan Matthews, 24, dreulio isafswm o 18 mlynedd dan glo am yr ymosodiad ar ei gariad, y fyfyrwraig Xixi Bi.

Roedd Jordan Matthews wedi ei churo dwsinau o weithiau yn eu fflat yn Llandaf ar 19 Awst am ei fod yn credu bod Xixi Bi yn cael perthynas gyda dyn arall.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr ymosodiad wedi dechrau tua 1.30 y bore ond nad oedd Jordan Matthews wedi ffonio am ambiwlans tan tua 8.30 y bore. Bu farw Xixi Bi o ganlyniad i’w hanafiadau.

Roedd Jordan Matthews wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ond yn gwadu ei llofruddio. Roedd y rheithgor wedi gwrthod ei honiad nad oedd wedi bwriadu brifo Xixi Bi ac fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth.

Myfyrwraig

Cafodd Xixi Bi ei geni yn China a’i haddysgu yn y Deyrnas Unedig ers yr oedd hi’n 15 oed.

Roedd hi’n fyfyrwraig ôl raddedig ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac wedi cwrdd â Jordan Matthews ar-lein ym mis Ebrill 2015, ac wedi symud i mewn gyda’i gilydd.

Roedd ymchwiliad post-mortem yn dangos iddi ddioddef anafiadau i’r rhan fwyaf o’i chorff ynghyd ag arwyddion o anafiadau blaenorol.

“Diweddglo trasig”

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies bod yr ymosodiad yn “ddiweddglo trasig” i fisoedd o gamdriniaeth gorfforol a geiriol.

Ychwanegodd bod Jordan Matthews wedi “dweud celwydd dro ar ôl tro” er mwyn ceisio celu’r dystiolaeth ei fod wedi ymosod ar ei gariad.