Llun: PA
Mae ffigurau newydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru’n cyflawni’n debyg, ar y cyfan, i weddill gwledydd Prydain, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau wedi asesu ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Roedd Cymru’n debyg i gyfartaledd gweddill y Deyrnas Unedig mewn wyth maes, sef dros hanner y meysydd a aseswyd.

Ond mewn pedwar maes arall, roedd Cymru wedi perfformio’n well, sef cyfradd marw strôc, cyfraddau derbyn i’r ysbyty cleifion ag asthma, cyfraddau trychiad i fenywod â chlefyd y siwgr a chyfraddau gadael offer llawfeddygol mewn cleifion yn ystod llawdriniaeth.

Dangos ‘ble i wella’

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi canmol y canlyniadau yn enwedig y pedwar maes lle’r oedd Cymru’n perfformio’n well na’r cyfartaledd.

“Mae ystadegau Cymru yn dangos ar gyfer ystod o fesurau ansawdd gofal iechyd, o’u cymharu â’r cenhedloedd eraill, mae Cymru’n weddol debyg ac yn agos at gyfartaledd y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae’r wybodaeth sydd wedi’i gyhoeddi heddiw o gymorth i weld ble yr ydym arni o gymharu â’r cenhedloedd eraill, ond yn fwy pwysig mae’n ein helpu i wybod ble allwn ni wella ar gyfer pobol Cymru.”