Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Cafodd protestiadau eu cynnal yng Nghymru a Llundain nos Lun er mwyn gwrthwynebu ymweliad gwladol Arlywydd yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

Bu protestwyr yn ymgynnull yng Nghaerdydd, Abertawe a Thyddewi er mwyn dangos eu gwrthwynebiad at ymweliad Donald Trump.

Yng Nghaerdydd roedd protestwyr wedi ymgynnull ger cerflun Aneurin Bevan lle bu gwleidyddion a siaradwyr cyhoeddus yn annerch y dorf, ac yn Abertawe bu protestiadau yn sgwâr y castell.

Mae nifer wedi dadlau bod yr ymweliad wedi cael ei gynnig yn rhy fuan ar ôl i Donald Trump ddechrau yn ei swydd. Roedd ei ragflaenydd Barack Obama wedi gorfod aros 758 diwrnod ers dechrau ei swydd cyn iddo gael gwahoddiad.

Dadl yn Nhŷ’r Cyffredin

Daeth y protestiadau wrth i drafodaethau gael eu cynnal yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe am  ddwy ddeiseb, un ohonyn nhw yn gwrthwynebu ymweliad gwladol Arlywydd yr Unol Daleithiau a’r llall yn dweud y dylai fynd rhagddo.

Yn ystod y ddadl, a gafodd ei harwain gan Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd Paul Flynn, gwnaeth tua dwsin o aelodau seneddol siarad  o blaid israddio ymweliad yr Arlywydd.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin gwnaeth Paul Flynn gymharu ymddygiad Donald Trump ag ymddygiad “plentyn sydd wedi pwdu” a galwodd ar weinidogion i osgoi camgymeriadau’r gorffennol pan gafodd “cymeriadau annymunol” eu gwahodd.

Siaradodd nifer o aelodau seneddol o’r blaid Geidwadol o blaid yr ymweliad.

Mae Downing Street wedi dweud y bydd yr ymweliad yn mynd yn ei flaen a’u bod yn edrych ymlaen at groesawu Donald Trump.