Llun: PA
Mae angen i Lywodraeth Cymru “fonitro’n well” sut maen nhw’n dosbarthu Grantiau Gwella Addysg yn ôl Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r pwyllgor yn ymateb i gyfraddau cyrhaeddiad dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig am fod eu cyrhaeddiad nhw’n is nag unrhyw grŵp arall yng Nghymru.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gael “gafael cadarnach” ar sut maen nhw’n monitro Grant Gwella Addysgu a chyflwyno tystiolaeth i’w penderfyniadau.

‘Diffyg monitro effeithiol’

Esboniodd y Pwyllgor eu bod wedi clywed fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno fframwaith perfformiad o ran defnyddio’r grantiau, ond bod yr amcanion hynny ar lefel uchel gydag ychydig o gyfeiriadaeth at sipsiwn, Roma a theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig.

“Yr hyn a welsom oedd diffyg monitro effeithiol, ac nad oedd Llywodraeth Cymru, y consortia addysg ranbarthol ac awdurdodau lleol, yn ôl pob golwg, yn cydweithio’n effeithiol,” meddai Lynne Neagle, AC a Chadeirydd y Pwyllgor.

“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella’r trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso, gan barhau i adolygu mater cyffredinol y model ariannu, a’i bod yn ystyried y mater hwn eto cyn diwedd y Cynulliad hwn,” meddai.

Bwlch ‘annerbyniol’

Ychwanegodd Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y “bwlch cyrhaeddiad rhwng rhai grwpiau lleiafrifol a disgyblion eraill yn ysgolion Cymru yn gwbl annerbyniol.”

“Dylai Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ymestyn cymorth wedi’i dargedu at bobol ifanc o grwpiau cyrhaeddiad isel i alluogi nhw i gael mynediad i amgylchedd ôl-16 fel addysg uwch a phellach,” meddai