Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 24 oed yn wynebu dedfryd yn Llys y Goron Caerdydd yfory wedi’i gyhuddo o lofruddio ei gariad.

Mae Jordan Matthews wedi’i gyhuddo o lofruddio Xixi Bi, 24 oed, yn dilyn ymosodiad yn eu cartref yn Llandaf yng Nghaerdydd ym mis Awst y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr ymosodiad wedi dechrau tua 1.30 y bore ar Awst 19, gyda Jordan Matthews ond yn galw am ambiwlans tua 8.30 y bore.

‘Yn ein calonnau am byth’

Dywedodd brawd y ferch, Zexun Bi, mewn datganiad i’r llys: “roedd hi’n alluog a gyda’i holl fywyd o’i blaen hi.

“Mae hyn oll wedi’i gymryd oddi wrthi oherwydd Jordan Matthews a’i ymosodiad hunanol a ffyrnig ar fy chwaer,” meddai.

“Byddwn ni fel teulu byth yn gallu dod i delerau gyda’n colled a bydd Xixi yn ein calonnau am byth, dim ots faint y mae’r rheiny wedi’u torri.”

Cefndir

Cafodd Xixi Bi ei geni yn China a’i haddysgu yn y Deyrnas Unedig ers yr oedd hi’n 15 oed.

Roedd hi’n fyfyrwraig ôl raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi cwrdd â Jordan Matthews ar-lein ym mis Ebrill 2015, ac wedi symud i mewn gyda’i gilydd.

Roedd ymchwiliad post-mortem yn dangos iddi ddioddef anafiadau i’r rhan fwyaf o’i chorff ynghyd ag arwyddion o anafiadau blaenorol.

Bydd Jordan Matthews yn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth, Chwefror 21.