Irene Cuogo (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Mae Eidales sydd wedi byw yng Nghymru ers 15 mlynedd wedi trefnu rali yn Aberystwyth heddiw i gefnogi mudwyr a ffoaduriaid.

Dywed Irene Cuogo sy’n astudio Astudiaethau Plentyndod yn y coleg ger y lli ei bod wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad hiliol a senoffobig yn y Deyrnas Unedig ers pleidlais Brexit ym Mehefin 2016.

“Mae Ceredigion yn sir bwysig ac annwyl iawn oherwydd ei safbwynt mewn perthynas â ni’r mewnfudwyr, ymfudwyr a ffoaduriaid, a sut y mae ei phobol yn dangos eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad tuag at ein grŵp yn ddyddiol ers Brexit,” meddai Irene Cuogo fydd yn cynnal y rali tu allan i Ganolfan y Celfyddydau ddydd Llun, Chwefror 20.

‘Hafan ddiogel’

“Yn fwy penodol, mae tref fywiog ac amrywiol Aberystwyth – gyda’r Brifysgol a llefydd fel Ysbyty Bronglais, yn ogystal â mudiadau llawr gwlad fel Aberaid sy’n cael eu cefnogi gan y cyngor – yn teimlo fwy nag erioed fel hafan ddiogel i bawb, lle na chaniateir i’r naratif senoffobig a hiliol ddod yn rhan o fywyd bod dydd,” ychwanegodd y fyfyrwraig.

Mae’r rali sy’n cael ei chynnal am 1 o’r gloch wedi derbyn cefnogaeth staff a myfyrwyr y brifysgol ac yn rhan o ymgyrch ryngwladol Un Diwrnod Hebddo Ni.