Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wnaeth hollti’i wddf yn Llys yr Ynadon Hwlffordd ym mis Ionawr wedi cyfaddef iddo fynd â chyllell i’r llys.

Er hyn, wrth ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe heddiw, dywedodd y barnwr nad oedd hi’n fwriad ganddo i niweidio unrhyw un arall gyda’r arf.

Roedd Lukasz Robert Pawlowski, 33 oed, yn aros i glywed ei ddedfryd am gyhuddiadau o droseddau rhyw ar Ionawr 11 pan gafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl hollti’i wddf yn y doc.

‘Mater difrifol’

“Mae torri rheolau diogelwch y llys yn fater difrifol,” meddai’r Barnwr Paul Thomas heddiw gan ddweud nad oedd am ei anfon i garchar.

“Y gwir amdani oedd ei fod eisoes wedi’i gosbi am hynna; roedd e wedi bod yn y ddalfa am yr hyn sy’n gyfystyr â dedfryd tri mis.

“Mae pam na chafodd (y gyllell) ei adnabod yn fater cwbl wahanol,” ychwanegodd gan ddweud fod angen cynnal ymchwiliad.

Cefndir

Roedd Lukasz Robert Pawlowski o Ddoc Penfro wedi pledio’n euog i ymosodiad rhyw ar weithiwr siop cyn hynny.

Fe holltodd ei wddf yn y doc ar ôl dychwelyd o’r tai bach.

Cafod ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Treforys gydag anafiadau “difrifol”

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ddedfryd ar Fawrth 6.