Janet Finch-Saunders
Mae trethdalwyr yn cael eu “twyllo’n ariannol” gan gynlluniau menter cyllid preifat (PFI) yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn dilyn ymchwiliad gan y Ceidwadwyr Cymreig ar sail data Trysorlys y Deyrnas Unedig, mae wedi dod i’r amlwg y bydd yn rhaid i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ad-dalu cannoedd  o filiynau o bunnoedd o ganlyniad i gynlluniau menter cyllid preifat.

Creu a chynnal prosiectau cyhoeddus trwy gwmnïau preifat yw hanfod y cynlluniau menter cyllid, ac mae’n ymddangos bod costau gwerth £1.5 biliwn ar gyfer yr 11 prosiect sydd ar y gweill yng Nghymru i’w talu yn ôl.

Cyngor Wrecsam sydd â’r costau mwyaf oherwydd cynlluniau PFI wedi iddyn nhw ymrwymo â chytundeb gwaredu gwastraff yn costio £52,438,000 gyda llog dros 25 mlynedd yn 2009. Fe fydd y gost yn y pendraw yn £450 miliwn yn ol llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, Janet Finch-Saunders.

Yn dilyn eu hymrwymiad i gynllun menter cyllid preifat gwerth £40.7m i adeiladu tair ysgol mae disgwyl bydd yn rhaid i Gyngor Sir Conwy dalu £175.1m yn ôl yn y pen draw.

“Mae’n anhygoel i weld cymaint o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd ynghlwm a chynlluniau PFI gwenwynig. Tra bod ’na gyfnodau pan mae’n hanfodol i gael mynediad at arian preifat, fel arfer nid ydyn nhw’n cynnig gwerth am arian ac yn rhoi baich o ddyledion ar genedlaethau’r dyfodol.

“Mae’n ymddangos fel bod y trethdalwyr yn cael eu twyllo’n ariannol.. O ystyried bod y Prif Weinidog (Carwyn Jones) wedi condemnio preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus yn y gorffennol, byddai’n ddiddorol gwybod beth mae e’n ei wneud i geisio atal eu defnydd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Gwerth da am arian”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraethau Cymru, un ar ôl y llall,  wedi osgoi’r Fenter Cyllid Preifat. O ganlyniad i’n ffordd o weithio, mae dyledion y math hwn o gynllun yng Nghymru lawer yn is na mewn rhannau eraill o’r DU. Mae’r gost flynyddol y pen ar gyfer cynlluniau Menter Cyllid Preifat yng Nghymru (oddeutu £200) lai nag un rhan o bump o gost y pen yng ngweddill y DU (dros £1,000).

“Er hynny, gall partneriaethau â’r sector preifat,  sydd wedi’u dylunio, eu cynllunio a’u rheoli’n dda i gyflenwi seilwaith cyhoeddus, gynnig gwerth da am arian a sicrhau bod asedau sydd mawr eu hangen yn cael eu cyflenwi’n llawer cynt nag y byddent fel arall.”