Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Bydd yr Aelod Seneddol Paul Flynn yn arwain trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ynglŷn ag ymweliad gwladol Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Bydd AS Llafur Gorllewin Casnewydd yn cynnal y drafodaeth yn sgil dwy ddeiseb sy’n gwrthwynebu ymweliad gwladol Donald Trump â’r Deyrnas Unedig.

Mae un o’r deisebau, sydd wedi derbyn tua 1.85 miliwn o lofnodion erbyn hyn, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i atal yr Arlywydd rhag derbyn ymweliad gwladol swyddogol er mwyn osgoi “embaras” i’r Frenhines.

Fe fydd Tŷ’r Cyffredin hefyd yn ystyried ail ddeiseb, sydd wedi derbyn 312,000 o lofnodion,  sy’n mynnu y dylai’r ymweliad fynd rhagddo.

Dan y rheolau presennol, mae’n rhaid i ASau ystyried unrhyw ddeiseb sydd wedi derbyn lleiafswm o 100,000 o lofnodion.

 ‘Dim cynsail’

Derbyniodd y cyn-Arlywydd Barack Obama wahoddiad wedi 758 diwrnod o fod yn y swydd ond derbyniodd Donald Trump wahoddiad wythnos ar ôl iddo gael ei benodi.

“Oedd e’n gamgymeriad ar ran y Prif Weinidog i roi ymweliad gwladol – does dim cynsail i hyn o gwbl. Roedd rhaid i Barack Obama aros am lawer hirach ar gyfer ymweliad o’r fath. Mae’r ddeiseb yn dweud bod croeso i’r Arlywydd, ond nid i roi’r anrhydedd arbennig o’r ymweliad gwladol,” meddai Paul Flynn wrth Golwg360.

“Yr unig reswm am barhau gyda’r cynllun ar hyn o bryd yw oherwydd bod y Ceidwadwyr am weld yr ymweliad gwladol yn digwydd. Does dim plaid arall yn cefnogi’r gwahoddiad. Dw i’n credu byddai hi’n beth da petai’r Ceidwadwyr yn talu cost £10 miliwn yr ymweliad.”

Protestiadau

Yn y cyfamser heddiw mae protestiadau’n cael eu cynnal ar draws y DU i gefnogi mewnfudwyr a phrotestio yn erbyn Donald Trump, gyda disgwyl i filoedd ymgasglu ar gyfer rali y tu allan i’r Senedd.

Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal yn Neuadd San Steffan am 4.30yp ac yn para am dair awr.