Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth dyn y cafwyd hyd i’w gorff ar draeth yn Sir Benfro.

Daeth yr heddlu o hyd i’r corff ar draeth Maenorbŷr am oddeutu 7.35 fore ddoe.

Mae’r corff wedi cael ei adnabod, ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Does dim esboniad ar hyn o bryd, ac mae’r achos yn nwylo’r crwner.