Dementia (Llun: gwefan Alzinfo)
Mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru wedi galw am dystiolaeth sy’n dangos bod llai o gyffuriau gwrth-seicotig yn cael eu defnyddio i drin cleifion â dementia yng Nghymru.

Mae’r cyffuriau dan sylw hefyd yn cael eu defnyddio i drin cleifion â sgitsoffrenia a chlefyd y ddau begwn.

Yn 2014, cafodd arolwg ei gyhoeddi gan Sarah Rochira ar sail profiadau cleifion mewn cartrefi gofal yng Nghymru, a dywedodd hi yn sgil y canfyddiadau bod y sefyllfa’n “sgandal genedlaethol”.

Er bod byrddau iechyd a chartrefi gofal yn mynnu eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa, mae Sarah Rochira wedi galw arnyn nhw i ddangos tystiolaeth o’u cynnydd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Eye on Wales BBC Radio Wales brynhawn yfory, bydd Sarah Rochira yn dweud bod pobol hŷn yn cael eu “colbio’n gemegol…drwy’r defnydd amhriodol o’r cyffuriau hyn”.

“Mae hi’n sgandal genedlaethol. Fe wnes i hynny’n glir pan gyhoeddais i fy arolwg.

“Ro’n i’n glir iawn y byddwn i’n dychwelyd i edrych am dystiolaeth ynghylch newidiadau a dw i bellach wedi dechrau ar y broses honno.”

Cynnydd

Mae byrddau iechyd wedi cymryd nifer o gamau i ddatrys y sefyllfa, gan gynnwys penodi nyrsys i roi hyfforddiant i staff cartrefi gofal (Abertawe Bro Morgannwg) a chydweithio â chartrefi gofal, gan gyflwyno tystiolaeth fis nesaf (Aneurin Bevan).

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, 8% o’u cleifion oedd wedi derbyn cyffuriau gwrth-seicotig hyd at fis Tachwedd diwethaf, sy’n is o lawer na’r cyfartaledd yn y DU. Maen nhw hefyd wedi llunio cynllun gweithredu ar sail argymhellion y comisiynydd.

Yng Nghaerdydd a’r Fro, fe fu’r bwrdd iechyd yn cydweithio â dau gartref gofal i adolygu’r ffordd y mae cyffuriau gwrth-seicotig yn cael eu rhoi i gleifion, ac mae canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi er mwyn cynghori meddygon teulu a fferyllwyr.

Mae byrddau iechyd Cwm Taf a Hywel Dda wedi rhoi mwy o bwys ar gydweithio rhwng meddygon a fferyllwyr wrth benderfynu pwy ddylai dderbyn cyffuriau gwrth-seicotig.

Dementia

Fis Tachwedd diwethaf, yn dilyn arolwg gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, fe ddaeth i’r amlwg fod 18% o gleifion dementia yng Nghymru’n derbyn cyffuriau gwrth-seicotig.

Dywedodd cyfarwyddwr y coleg yng Nghymru, Mair Davies wrth Radio Wales fod peth dystiolaeth o arfer da ymhlith cartrefi gofal yng Nghymru, a bod angen “sicrhau bod hynny’n digwydd ym mhob cartref gofal yng Nghymru”.

Mae Fforwm Gofal Cymru wedi galw am fynd i’r afael â’r ymddygiad sy’n arwain at roi cyffuriau, yn hytrach na rhoi’r pwyslais ar dawelu cleifion drwy roi’r cyffuriau iddyn nhw fel man cychwyn.