Jonathan Edwards (Llun: Plaid Cymru)
Mae aelod o’r Blaid Lafur yn Llanelli a fu’n ymgyrchu yn erbyn newidiadau i Ysgol Llangennech wedi cael ei ddiarddel gan y blaid.

Yn ôl Plaid Cymru, cafodd y penderfyniad i ddiarddel Michaela Beddows ei wneud ar ôl i Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards ysgrifennu llythyr agored at arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Yn ei lythyr, tynnodd Jonathan Edwards sylw at ymgyrchu ar y cyd rhwng y Blaid Lafur ac UKIP wrth iddyn nhw rannu deunydd yr English Defence League (EDL) ar wefannau cymdeithasol.

Ers iddo ysgrifennu’r llythyr, dywed Jonathan Edwards fod rhieni ac athrawon wedi mynegi pryderon am “fygwth systematig gan ymgyrchwyr y Blaid Lafur”, ac mae e wedi beirniadu diffyg ymateb y Blaid Lafur i’r honiadau.

“Nid un unigolyn sy’n gyfrifol am weithredoedd gwenwynig y Blaid Lafur yn Llangennech,” meddai.

Mae e wedi galw am ddiarddel ac ymchwilio i ymddygiad “yr holl aelodau ac ymgeiswyr rydyn ni wedi dangos eu bod nhw ynghlwm wrth ymgyrchu ag UKIP neu sydd wedi hwyluso’r fath gydweithio”.

‘Rhethreg rhwygol’

Ychwanega yn ei lythyr: “Wrth i’r ymchwiliad hwn fynd rhagddo, byddwn i’n disgwyl i’r holl bobol hynny sydd wedi bytholi rhethreg rhwygol yr asgell dde eithafol; y rheiny ry’n ni wedi’u canfod yn defnyddio bygythiadau; a’r rheiny sydd wedi galw’r polisi Llywodraeth Cymru hwn yn ‘apartheid’ gael eu hatal rhag sefyll ar gyfer swydd gyhoeddus yn enw’r Blaid Lafur.

“Ymhellach, gyda thri chynghorydd Llafur yn unig yn pleidleisio er mwyn cefnogi eu polisi eu hunain ar addysg cyfrwng Cymraeg, dylai prif swyddfa Llafur ofyn iddyn nhw eu hunain a ddylai’r rheiny sy’n diystyru polisi’r blaid gael cynrychioli’r blaid o gwbl.”

Ymateb

Wrth ymateb, mae’r Blaid Lafur wedi dweud wrth golwg360 bod Michaela Beddows wedi cael ei diarddel.

“Mae’r Blaid Lafur yn ymwybodol o gwynion am Michaela Beddows,” meddai’r Blaid Lafur mewn datganiad.

“Mae Ms Beddows wedi cael ei diarddel gan y Blaid Lafur tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.”