Bydd cwmnïau Cymreig, ynghyd ag Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, yn ymweld â Tsieina wythnos nesaf er mwyn cryfhau cysylltiadau â’r wlad.

Bydd Ken Skates yn ymuno â thaith fasnach o 18 cwmni o Gymru gan gynnwys Clogau Gold, i2L Research, Timberkits a Tiny Rebel, wrth iddyn nhw ymweld â Chongqing a Shanghai.

Mae disgwyl y bydd digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn cael eu cynnal yno, ac fe fydd dirprwyaeth ddiwylliannol o Gymru yn ymuno a’r daith.

Ar hyn o bryd, mae 19 o gwmnïau o Tsieina yn gweithredu yng Nghymru, sydd yn cyflogi 2,500 o bobol i gyd.

Mae allforion Cymru i Tsiena yn werth £209 miliwn yn ôl y ffigurau diweddaraf, a’r gobaith yw gwella’r berthynas fasnachol gydag ail economi fwyaf y byd.

Cryfhau cysylltiadau

Dywedodd Ken Skates: “Mae Tsieina yn rym rhyngwladol anferth ac yn wlad y mae Cymru yn awyddus i gryfhau ei chysylltiadau â hi. Mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig fel partner masnach, fel cyrchfan i dwristiaid ac fel partner diwylliannol.

“Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn estyn llaw i Tsieina a phartneriaid rhyngwladol eraill a pharhau i weithio i adeiladu economi gryfach a thecach i Gymru ac i bawb.”