Mae rheithgor wedi dyfarnu bod dyn 24 oed yn euog o lofruddio ei gariad mewn fflat yng Nghaerdydd.

Mi wnaeth Jordan Matthews bledio’n euog i ddynladdiad ond gwadodd ei fod yn euog o lofruddio Xi Xi Bi oedd hefyd yn 24 oed.

Cafodd ei asennau a’i gên eu torri yn ystod yr ymosodiad yn Llandaf Awst 19 flwyddyn ddiwethaf, a bu iddi farw yn yr ysbyty wedi i’w chalon ddod i stop.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd, bod Jordan Matthews sydd yn honni fod ganddo felt ddu mewn karate, wedi ei churo sawl gwaith ac wedi ei galw’n “ddi-werth” fwy nag unwaith.

Mae’n debyg ei fod wedi dechrau amau bod Xi Xi Bi wedi bod yn anufudd, ond mi roedd yr erlynyddion a’r amddiffyniad yn gytûn bod yr amheuon yn ddi-sail.

“Roedd Xi Xi Bi yn mwynhau ei bywyd pan oedd hi’n astudio yng Nghaerdydd ond yn anffodus newidiodd hyn wedi iddi hi gwrdd â Jordan Matthews. Roedd e’n ei rheoli hi ac mi wnaeth hyn arwain at drais eithafol a pharhaus wnaeth ei lladd hi,” meddai’r Prif Arolygydd Gareth Morgan.