Darlun o'r hyn y gallai'r Egin fod.
Mae gorfod delio gyda chwynion gan gyd-Gymry am y modd mae talu am bencadlys newydd i S4C, “yn siom fawr” i gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Bu sawl un yn codi cwestiynau dros briodoldeb cais gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant am £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru, at y gost o adeiladu’r Egin a fyddai yn gartref i’r Sianel Gymraeg.

Fe enillodd y Brifysgol yr hawl i godi pencadlys newydd i S4C, ar yr amod ei fod yn ‘gost niwtral – ddim yn costio ceiniog – i’r Sianel Gymraeg.

Ond ers ennill, daeth i’r fei bod Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn cael £3 miliwn o rent rhag blaen gan S4C.

Mae sawl un o wleidyddion Plaid Cymru yn y gogledd wedi galw am ailgychwyn y broses o ddewis cartref newydd i S4C, ac yn ffafrio Caernarfon dros Gaerfyrddin fel y lle iawn i’r pencadlys.

Ond mae un o gynghorwyr sir amlycaf Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn dweud bod y sefyllfa yn “hynod drist” ac yn peryglu dyfodol Cymru fel cenedl.

“Mae’n amlwg bellach bod ymgyrch ddifrodol yn digwydd i rwystro’r Egin, doed a ddelo,” meddai Alun Lenny, “ymgyrch sydd wedi dod â phobol o ddwy garfan at ei gilydd: y rhai sydd ddim am symud o Gaerdydd, a’r rhai sy’n dal i gredu taw Caernarfon ddylai cartref S4C fod. Unwaith eto, dyma ni’r Cymry yn cael ein rhwygo. Mae’n hynod drist.

“Hyd yn hyn rwyf i, a’r pum cynghorydd Plaid Cymru arall sy’n cynrychioli tref Caerfyrddin ar Gyngor Sir Gâr, wedi bod yn gymharol dawel ar y mater. Ond prin y gallwn ni oddef yr ymosodiadau yma ar gynllun Yr Egin lot mwyach.

“Ar adeg pan ydym ni fel Cyngor Sir yn ymladd carfan o aelodau Llafur ac UKIP sy’n gwrthwynebu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, mae gorfod delio gyda’r negyddiaeth yma gan ein cyd-Gymry ar fater Yr Egin hefyd, yn siom fawr.

“Yma, yn Sir Gâr, y bydd y frwydr dros ddyfodol yr iaith Gymraeg yn cael ei hennill neu’i cholli. Dylai’r bobl hynny sydd â’u bryd ar rwystro cynllun Yr Egin ystyried y difrod mawr y gallent ei wneud i’n hymdrechion i ennill y frwydr honno – y difrod i ddyfodol S4C a’r difrod yn y pen draw i’n dyfodol fel cenedl.”

Ceiniogwerth Carwyn Jones

Heddiw mae Prif Weinidog Cymru wedi barnu y byddai symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn golygu gwario arian cyhoeddus.

Wrth drafod saga symud y Sianel Gymraeg o Gaerdydd, fe ddywedodd Carwyn Jones wrth bwyllgor craffu yn y Cynulliad:

“Pan gafodd hyn ei drafod gyda mi, y rheswm y cafodd Caerfyrddin ei ddewis oedd na fyddai yna gost i’r pwrs cyhoeddus… yr ateb oedd: ‘Mae Caerfyrddin yno, mae’r safle yno, dyw e’ ddim yn mynd i gostio unrhyw beth’.

“Mae hynny wedi newid.”