Mae un o gyn-chwaraewr pêl-droed enwocaf Cymru wedi penderfynu peidio â gwahardd y wasg o wrandawiadau llys fydd yn clywed am ei frwydr gyfreithiol â’i wraig am arian.

Bu Ryan Giggs a’i wraig Stacey Giggs yn yr Uchel Lys ddechrau’r flwyddyn er mwyn delio ag anghydfod dros faterion ariannol.

Yn wreiddiol roedd cyn-chwaraewr Man U wedi galw ar y barnwr i waharddiad y wasg o’r Uchel Lys.

Ond yn dilyn tro pedol gan Ryan Giggs mi fydd modd i aelodau’r wasg fod yn bresennol – ond ni fydd gan y wasg yr hawl i adrodd am wybodaeth ariannol nag enwi plant y pâr priod.

Mae’r achos wedi codi nifer o gwestiynau ynglŷn â’r hyn ddylai fod yn gyhoeddus mewn achosion o ysgariad rhwng pobol gyfoethog, gyda nifer o feirniaid yn anghytûn.