Mae ffilm o Gymru wedi ennill gwobr y Ffilm Newydd Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Hollywood – y drydedd wobr i’r ffilm eleni.

Cafodd By Any Name, sy’n addasiad o nofel Katherine John, ei ffilmio yn Abertawe a Bannau Brycheiniog dros gyfnod o 16 diwrnod yn unig yn 2014, ac mae’r actorion Samira Mohamed Ali o Gastell-nedd a Cengiz Dervis yn serennu yn y ffilm.

Ddeng niwrnod yn ôl cafodd y cwmni cynhyrchu Tanabi wybod fod y ffilm wedi ennill gwobr y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Wuhan yn China, ynghyd ag ymddangos yn 10 uchaf Gwobr y Beirniaid.

Ac o fewn y mis diwethaf, cipiodd y ffilm wobr y Ffilm Hir Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Yosemite yn yr Unol Daleithiau, ac mae hi wedi cymhwyso ar gyfer BAFTA Cymru 2017.

Bellach mae hi wedi dod i frig rhestr oedd yn cynnwys cannoedd o ymgeiswyr ar gyfer yr ŵyl yn Hollywood.

‘Wrth ein bodd’

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm Euros Jones-Evans: “Ryden ni’n falch iawn o ennill y wobr hon am ein ffilm hir gyntaf.

“Ryden ni wrth ein bodd gydag ymateb cyffredinol y beirniaid i’r ffilm hon yn y gwahanol wyliau rhyngwladol.

“Cawsom gefnogaeth ddi-ben-draw oddi wrth ein partneriaid lleol yng Nghymru, ac yn ryden ni’n hynod o ddiolchgar i’r cast a’r criw i gyd, yn enwedig i’r ddau brif gymeriad – Cengiz Dervis, sy’n chwarae John West a Samira Mohamed Ali sy’n chwarae rhan Doctor Elizabeth Santer, am eu hymroddiad llwyr i’r prosiect o wneud ffilm annibynnol fel hon.”

‘Syfrdanol’

Ychwanegodd awdur y nofel wreiddiol, Katherine John ei bod hi’n “falch dros ben” ac yn ei ystyried hi’n “fraint mawr” fod y ffilm wedi derbyn y fath ymateb.

“Mae tîm cynhyrchu Tanabi wedi gweithio mor ddygn a rhoi 150% er mwyn gallu cwblhau’r prosiect hwn, ac wedi dod a’m nofel yn fyw mewn modd eithriadol – mae’n newyddion syfrdanol.”

Gallwch ddilyn hynt a helynt y ffilm ar Twitter a Facebook.