Mae Dirprwy Bennaeth wedi ei wahardd rhag gweithio mewn ysgolion am ddeng mlynedd, a hynny am iddo gael rhyw gyda merched yn eu harddegau.

Roedd Jonathan Norbury, 35 oed, yn athro ysgol gynradd ac yn ddeiacon eglwys, ond roedd hefyd yn cyfnewid negeseuon tecst er mwyn fflyrtio gyda merched yn eu harddegau.

Rhwng 2005 a 2010 bu’n cyfarfod tair o’r merched ar gyfer gweithgarwch rhywiol.

Mewn gwrandawiad disgyblu yng Nghaerdydd, roedd Jonathan Norbury yn mynnu nad oedd unrhyw beth rhywiol wedi digwydd gyda’r merched cyn eu bod yn 16 oed.

Ond daeth y panel disgyblu i’r casgliad bod 17 o’r 20 cyhuddiad o gamymddwyn annerbyniol wedi eu profi.