Nyrdlau - o wefan Fidra, yr elusen yn yr Alban oedd yn arwain yr helfa
Mae traethau yng Nghymru ymhlith cannoedd lle mae darnau bach o blastig wedi eu ffeindio, gan godi pryder mawr am fywyd gwyllt.

Fe gafodd ‘Helfa Fawr’ ei chynnal ynghynt y mis yma gan bartneriaeth o fudiadau cadwraethol er mwyn chwilio am ‘nyrdlau’ – darnau maint pys o blastig.

Fe ddaethon nhw o hyd i filoedd o’r darnau ar rai traethau, gan gynnwys rhai fel Porth Neigwl yn Llŷn.

Bae Ceredigion

Fe soniodd un chwilotwr am ddod o hyd i 1,000 o’r darnau mewn chwarter awr ar draeth ar Fae Ceredigion.

Yn ôl cadwraethwyr, mae’r nyrdlau’n aml yn amsugno cemegau gwenwynig ac yn gallu niweidio anifeiliaid ac adar sy’n eu bwyta.

Roedd 600 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn yr helfa ar draws gwledydd Prydain, gan chwilio ar 279 o draethau a dod o hyd i’r dernynnau ar 73% ohonyn nhw.

  • Nyrdlau yw’r dernynnau bach o blastig crai sy’n cael eu defnyddio i greu pob math o nwyddau plastig.