Un o longau Mainstay Marine Solutions (o wefan y cwmni)
Mae cwmni o Sir Benfro wedi ennill cytundeb gwerth £5.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu llongau newydd.

Mainstay Marine Solutions fydd yn cynhyrchu dwy long patrolio pysgodfeydd fydd yn rhwystro pysgota anghyfreithlon yng Nghymru.

Llwyddodd y cwmni sy’n cyflogi 80 i guro cwmnïau ledled Ewrop ac mae mwyafrif helaeth y gweithwyr yn byw yn Sir Benfro.

Yn y gwaith yn Noc Penfro, mae’n arbenigo ar longau bychain at ddefnydd masnachol neu filwrol – fe gafodd y cwmni’i sefydlu yn 2014.

Hwb i’r economi lleol

“Rwy’n falch y bydd llongau newydd yn cymryd lle’r hen longau a bod cwmni o Gymru wedi llwyddo i ennill y contract i gwblhau’r gwaith hwn,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mae Mainstay Marine Solutions wedi dangos ymrwymiad i wella sgiliau a datblygu ei weithlu lleol, a rhagwelwn y bydd llwyddiant parhaus y cwmni yn helpu i greu mwy o swyddi yn lleol, sy’n newyddion gwych i’r economi lleol.”