Un o ddatblygiadau Redrow (David Wright CCA 2.0)
Fe fydd achosion da yng ngogledd Cymru yn elwa wrth i ddyn busnes gyfrannu mwy na £200 miliwn at elusen – un o’r rhoddion mwya’ erioed yng ngwledydd Prydain.

Mae’r arian gan Steve Morgan, sylfaenydd cwmni adeiladu Redrow yn Sir y Fflint, yn mynd i sefydliad yn ei enw sy’n helpu achosion da ar draws gogledd Cymru a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr.

Ac mae Sefydliad Steve Morgan yn addo y bydd yr arian yn helpu i ddatblygu nifer o “brosiectau cyfalaf” newydd.

Helpu miloedd o bobol

Fe gafodd y rhodd ei gwneud ar lun 42 miliwn o gyfrannau Redrow – mwy nag 11% o holl gyfrannau’r cwmni.

Fe fydd yr arian yn help i’r Sefydliad “wneud gwahaniaeth” i fywydau miloedd o bobol, meddai gweinyddwraig y Sefydliad, Jane Harris.

Mae hynny’n cynnwys prynu bysus gwên ar gyfer pobol anabl a phobol ynysig yn ardal y Sefydliad, sy’n cynnwys gogledd Cymru.

Mae pencadlys Redrow yn parhau i fod yn Sir y Fflint a Steve Morgan, a sefydlodd y cwmni yn 1974, yw’r Cadeirydd Gweithredol o hyd.