Elfed 'Steddfod' Roberts - wedi'i enwebu yn y categori diwylliant (Llun Golwg360)
Mae enwebiadau terfynol Gwobrau Dewi Sant wedi eu cyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru heddiw.

Ymysg y bobol a chwmnïau sydd yn symud ymlaen at rownd derfynol y gwobrau – ‘y teilyngwyr’ – mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts; Tîm Pêl-droed Rhyngwladol Cymru; a chwmnïau Halen Môn o Frynsiencyn a Llaeth y Llan o Lannefydd.

Dyma bedwaredd flwyddyn y wobr sy’n dathlu llwyddiannau pobol a mentrau Cymreig mewn wyth maes sef dewrder; dinasyddiaeth; diwylliant; menter; arloesedd a thechnoleg; rhyngwladol; chwaraeon a pherson ifanc.

Y llynedd roedd yr enillwyr yn cynnwys y dyfarnwr rygbi, Nigel Owens a rheolwr tîm pêl droed Cymru, Chris Coleman, ennill gwobrau am gyfrannu i Gymu.

‘Grŵp eithriadol o bobol’

“Nod Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yw dathlu pobl sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, sydd wedi goresgyn anawsterau neu wedi cyflawni rhywbeth ysbrydoledig,” dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Unwaith eto, mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant yn grŵp eithriadol o bobol. Mae pob un ohonynt yn gaffaeliad i Gymru – mae hi’n mynd i fod yn anodd dewis yr enillwyr! Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r hyn y maen nhw wedi’i wneud yn y seremoni wobrwyo ar 23 Mawrth.”

Dyma’r enwebiadau terfynol:

Dewrder

Diffoddwyr Tân, Gary Slack a Billy Connor: wedi achub dau blentyn rhag boddi.

PC Christopher Bluck a PC Rhys Edwards, Heddlu De Cymru: wedi achub menyw oedd ar dân

Diffoddwyr Tân Pontardawe:  wedi ceisio achub dau blentyn o dŷ oedd ar dân.

Dinasyddiaeth

Cwnstabl Arbennig Cairn Newton-Evans, Heddlu Dyfed-Powys: wedi brwydro dros hawliau pobol hoyw.

21 Plus: elusen sy’n cefnogi pobl â syndrom Down.

Anthony Evans: ymgyrchydd addysg i fyfyrwyr anabl.

Diwylliant

Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Athro Jen Wilson: cerddor ac archifydd jazz.

The Cory Band: band pres.

Menter

Llaeth y Llan: cynhyrchwyr iogwrt.

David Banner: Cyfarwyddwr Gemau Fideo.

Halen Môn.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Jessica Leigh Jones: astroffisegwr a pheiriannydd.

Yr Athro Meena Upadhyaya: genetegydd.

Genesis Biosciences: datblygwyr cynnyrch diogelu ‘r amgylchedd.

Rhyngwladol

Dr David Nott OBE: llawfeddyg rhyfel

Nizar Dahan: gwirfoddolwr rhyngwladol.

Yr Athro Carl G. Jones MBE: biolegydd cadwraeth.

Chwaraeon

Tîm Pêl-droed Rhyngwladol Cymru, UEFA Euro 2016.

Aelodau o Gymru oedd yn rhan o TeamGB yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Rio 2016.

Anne Ellis: Llysgennad Chwaraeon.

Person ifanc

Brittany Davies: gwirfoddolwraig gyda phlant sy’n derbyn gofal.

Savannah Lloyd: gwirfoddolwraig iechyd meddwl.

Elan Môn Gilford: gwirfoddolwraig chwaraeon.