Penybont yn dathlu ennill cwpan (Llun y clwb)
Mae rheolwr clwb Penybont yn edrych ymlaen at yr her dydd Sadwrn yn erbyn y tîm o’r Gogledd – RGC 1404 – ond mae hefyd yn gwybod y bydd gêm gystadleuol o’u blaenau nhw ar Gae’r Bragdy Penybont Ford

Gyda Phenybont yn waelodion y gynghrair a RGC yn bedwerydd mae Ed Griffith yn gobeithio y bydd y fantais o chwarae gartref yn helpu ei dîm yn y gêm yng Nghwpan Cymru.

“Mae gêm dydd Sadwrn yn her enfawr i ni yn enwedig gan fod ein diffyg cysondeb yn y cynghrair yn siom,” meddai Ed Griffiths wrth Golwg360.

“Chwaraeon ni  RGC yn ein gêm cynghrair agoriadol y tymor, gêm lle oedd RGC yn manteisio’n dda iawn ar eu cyfleoedd. Ond mae cysondeb Penybont yng nghystadleuaeth y cwpan yn eitha’ da.”

Dau Gwpan

“Mae yna digon i’w chwarae am ar ôl  y tymor yma ac mae’n gyfle i ni symud ymlaen mewn dwy gystadleuaeth  gwpan.

“Mae angen i ni ddod o hyd i berfformiad 80 munud yn gyflym iawn er mwyn herio RGC sydd un o’r timau gorau yn yr Uwch Gynghrair.

Gobeithio bydd y cefnogwyr o’r ddau dîm yn gweld gêm rygbi arbennig o safon uchel. Beth bynnag yw’r sgôr terfynol bydd croeso cynnes i RGC ym Mhenybont.”

Bydd y gêm yn dechrau 14.30 prynhawn dydd Sadwrn 18 Chwefror, ac fe fydd yn cael ei darlledu ar S4C.