Gwaith Barbara Hepworth, Three Forms 1971 (Hawlfraint Bowness)
Ei gariad at Gymru, hen wlad ei fam, sydd wedi sbarduno casglwr lluniau cyfoethog i ddangos rhai o luniau gorau ei gasgliad yng Nghaerdydd – yn ôl arbenigwr un o’r casgliadau modern gorau i gael ei weld yng Nghymru erioed.

Mae hoffter Ian Stoutzker o’r wlad – roedd ei fam yn dod o Dredegar – yn golygu y bydd rhai o’r artistiaid modern goraiu’n cael eu dangos yn Amguddfa Cymru, gan gynnwys Francis Bacon, Henry Moore, David Hockney a Barbara Hepworth.

Fe fydd yr arddangosfa o gasgliad Ian Stoutzker a’i wraig Mercedes Stoutzker  – un o’r casgliadau preifat gorau o weithiau celf fodern Brydeinig – yn agor ddydd Sadwrn dan yr enw O Bacon i Doig: Campweithiau Modern o Gasgliad Preifat.

Teyrnged i’w Fam

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n rhaid i Ian Stoutzker ffoi yn faciwî o Lundain i Gymru lle bu’n astudio yn Ysgol Tredegar.

“Pan awgrymodd fy ngŵr, Ian, y dylen ni gynnig cynnal arddangosfa yng Nghaerdydd o gelf Brydeinig fodern o’n casgliad, feddyliais i y byddai’n dod â phleser i lawer – ond yn bennaf i Ian ei hun,” meddai Mercedes Stoutzker.

“Mae ganddo feddwl mawr o Gymru, wedi’i etifeddu gan ei fam, gafodd ei geni a’i magu yn Nhredegar.”

Yn 2011 fe gyfrannodd Ian Stoutzker £100,000 at neuadd newydd yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd er cof am ei fam.

Cyfle arbennig

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle arbennig hwn i ddod â gweithiau celf o’r fath werth diwylliannol i Gymru,” meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson.

“Mae ymhlith y casgliadau pwysicaf o gelf Brydeinig fodern i gael ei arddangos yng Nghymru erioed.”

Fe fydd yr arddangosfa yng Nghaerdydd tan Ionawr 31 y flwyddyn nesa’ gyda mynediad am ddim.